Comisiwn y Senedd                                    

 

Lleoliad:

Hybrid - Digital

 

Dyddiad:

Dydd Llun, 2 Mehefin 2025

 

Amser:

10.30 – 12.00

 

 

 

Cofnodion:  SC(6)2025(5)

 

 

 

Aelodau’r Comisiwn:

 

Y Gw. Anrh. Elin Jones AS (Cadeirydd)

Hefin David AS

Janet Finch-Saunders AS

Adam Price AS

Joyce Watson AS

 

 

 

 

 

Swyddogion yn bresennol:

 

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd

Arwyn Jones, Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Matthew Richards, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Dros Dro

Ed Williams, Cyfarwyddwr Adnoddau

Leanne Baker, Prif Swyddog Pobl

Lisa Bowkett, Prif Swyddog Cyllid, Comisiwn y Senedd

Jan Koziel, Head of Procurement

Laurian Hubbard, Pennaeth Ymgysylltu, Head of Engagement

Craig Griffiths, Head of Members Business Support

Sulafa Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau

Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd

Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd

 

 

 

 

 

 

Eraill yn bresennol:

 

 

 

 

 

 

 

<AI1>

1      Cyflwyniad

 

</AI1>

<AI2>

1.a  Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

 

Nid oedd dim ymddiheuriadau.

 

</AI2>

<AI3>

1.b  Datgan buddiant

 

Nid oedd dim datganiadau o fuddiant.

 

</AI3>

<AI4>

1.c   Cofnodion y cyfarfod blaenorol

 

Cytunodd y Comisiynwyr ar Gofnodion y cyfarfod ar 28 Ebrill 2025.

 

</AI4>

<AI5>

2      Blociau Adeiladu’r Gyllideb

 

Trafododd y Comisiynwyr y prif dybiaethau yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2026-27 sydd â goblygiadau ariannol, a’r hyn y dylid ei adlewyrchu yn y cyflwyniad cyllidebol i'r Pwyllgor Cyllid ym mis Hydref.

Rhoddodd y comisiynwyr eu barn gychwynnol ar y sail y bydd cyllideb ddrafft fanwl 2026/27 yn cael ei pharatoi; a chadarnhau fod y rhagdybiaethau gweithio yn briodol.

 

Byddai'r Gyllideb Ddrafft yn cael ei pharatoi ar gyfer cyfarfod y Comisiwn ym mis Medi, cyn cael ei gosod.   

 

</AI5>

<AI6>

3      Diweddariad Bae 2032

 

Rhoddwyd diweddariad i'r Comisiynwyr ar brosiect Bae 32, a nodwyd y cynnydd a wnaed.

 

</AI6>

<AI7>

4      Materion y Seithfed Senedd

 

Rhoddwyd crynodeb i’r Comisiynwyr o'r materion sy'n debygol o godi ar gyfer Comisiwn y Senedd o adroddiad Pwyllgor Senedd y Dyfodol ar Fusnes Seneddol yn y Seithfed Senedd.

Yng ngoleuni'r cais gan Bwyllgor Senedd y Dyfodol, nododd y Comisiynwyr fod y Bwrdd Gweithredol wedi cytuno mewn egwyddor i sefydlu astudiaeth ddichonoldeb ar ailgyflwyno gwasanaeth crèche, a byddai manylion hyn yn destun cymeradwyaethau pellach maes o law. Gofynnodd Janet Finch Saunders AS am nodi ei gwrthwynebiad i crèche a ddarperir gan y Comisiwn.

 

Cafodd y crynodeb ei nodi gan y Comisiynwyr, a bydd papurau i lywio trafodaeth ar sut y gallai'r Comisiwn fod am ymateb yn cael eu darparu mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.

 

</AI7>

<AI8>

5      Adolygiad Addysg

 

Rhoddwyd canfyddiadau i’r Comisiynwyr yn deillio o adolygiad y gwasanaeth Addysg. Nod yr adolygiad oedd deall a yw’r ddarpariaeth bresennol yn cyd-fynd â gweithrediad y Cwricwlwm i Gymru, a deall yn well yr heriau y mae addysgwyr yn eu hwynebu, hygyrchedd ein cynnig, a’r rhwystrau gwirioneddol neu ganfyddedig sy’n bodoli wrth ymgysylltu â’n gwasanaethau .

Nododd y Comisiynwyr ddarpariaeth y dyfodol a chytunwyd gyda mwyafrif:

·         y dylai pob grŵp, gan gynnwys y rhai o fewn cwmpas 10 milltir i’r Senedd, fod yn gymwys i gael y cymhorthdal teithio;

·         i barhau â’r broses neilltuo lle â blaenoriaeth ar gyfer Sesiynau Addysg Fewnol o flwyddyn academaidd 2026/27 i fod ar gael i grwpiau sydd â chanran uwch o ddisgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim; ac

·         yr Opsiwn a argymhellir i weithredu cynnydd o 50% yn y cymhorthdal teithio.

 

</AI8>

<AI9>

6      Y Farchnad

 

Cafodd y Comisiynwyr werthusiad o fformat Y Farchnad fel digwyddiad, a lansiwyd ym mis Mai 2024 fel cynllun peilot yn dilyn trafodaeth gan y Comisiynwyr ar nifer o gynigion i wneud defnydd mwy pwrpasol ac effeithiol o ystad y Senedd.

Cafodd y canlyniadau eu trafod gan y Comisiynwyr a chytunwyd ar yr opsiwn a argymhellir, i wneud Y Farchnad yn gynnig parhaol yn sgil llwyddiant y cynllun peilot, a fydd hefyd yn cynorthwyo i ddarparu ar gyfer y cynnydd yn y galw am ystafelloedd cyfarfod wrth i'r Senedd ehangu.

 

</AI9>

<AI10>

7      Ymateb i Ran 2 Ymgynghoriad y Bwrdd Taliadau Annibynnol ar y Penderfyniad

 

Trafododd y Comisiynwyr ymateb drafft i Ran Dau yr Ymgynghoriad ar Adolygiad y Bwrdd Taliadau Annibynnol o'r Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau’r Aelodau ar gyfer y Seithfed Senedd.

Cytunodd y Comisiynwyr ar yr ymateb i ymgynghoriad y Bwrdd; a nododd yr ymateb a fydd yn cael ei anfon gan y Swyddog Cyfrifyddu.

Bydd y llythyr yn cael ei ddarparu i’r Bwrdd. Nid yw ymatebion yn cael eu cyhoeddi fel mater o drefn gan y Bwrdd, er y gallai ymatebion neu safbwyntiau cryno gael eu cynnwys yn yr adroddiad a gyhoeddir ar yr adolygiad blynyddol.

 

</AI10>

<AI11>

8      Cyfamod y Lluoedd Arfog

 

Yng nghyfarfod y Comisiynwyr ar 24 Mawrth, cytunwyd y dylai'r Gwasanaeth Adnoddau Dynol gynnal adolygiad o ganlyniadau llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog a/neu Gynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn. Ymateb oedd hyn, i gais gan Samuel Kurtz AS ar ran Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig.

Cafodd y Comisiynwyr amlinelliad o ystyriaethau pellach i’w cynorthwyo i benderfynu a ddylai Comisiwn y Senedd wneud hynny.

Cytunodd y Comisiynwyr ar yr argymhelliad y dylai’r Comisiwn, ar sail y wybodaeth a ddarparwyd, lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog, ond ymatal rhag ymrwymo i’r Cynllun Cydnabod Cyflogwyr am y tro oherwydd y polisïau adnoddau dynol sydd eisoes ar waith. 

 

Bydd llythyr yn cael ei anfon at Sam Kurtz AS i’w hysbysu o’r penderfyniad.

 

</AI11>

<AI12>

9      Papurau i'w nodi:

 

</AI12>

<AI13>

9.a  Polisïau Absenoldeb oherwydd Salwch

 

Nododd y Comisiynwyr y polisïau newydd i helpu i reoli absenoldeb staff y Comisiwn yn effeithiol, yn dilyn adolygu’r Polisi Rheoli Presenoldeb, nad oedd yn cynnwys camau gweithdrefnol allweddol o ran sut y dylid rheoli absenoldeb salwch hirdymor, a’i ddisodli gan bolisi newydd. Bydd y polisïau'n cael eu cyhoeddi a'u gweithredu ar gyfer staff y Comisiwn. Gofynnodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus hefyd am gopi o'r polisi salwch hirdymor yn Argymhelliad 5 o'i adroddiad Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2023-24.

 

</AI13>

<AI14>

9.b  MTRF 2026-27 i 2028-29

 

Nododd y Comisiynwyr y Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig wedi'i ddiweddaru, a gymeradwywyd gan y Bwrdd Gweithredol ar 15 Mai 2025, yn adlewyrchu cytundeb y Comisiwn yn ystod cyfarfod 28 Ebrill i ddiwygio'r amserlen amlinellol ar gyfer adolygu rhai gwasanaethau penodol sydd ar gontract allanol.

 

</AI14>

<AI15>

9.c   Llywodraethu ar gyfer y Llawlyfr Staff Cymorth

 

Nododd y Comisiynwyr y broses lywodraethu ar gyfer cymeradwyo'r polisïau templed (ac eithrio'r rhai sy’n orfodol gan Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd) a gynhwysir yn y Llawlyfr Staff Cymorth a ddarperir i Aelodau o'r Senedd, i'w cefnogi yn eu rôl fel cyflogwyr staff cymorth.

 

</AI15>

<AI16>

9.d  Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD)

 

Nododd y Comisiynwyr y crynodeb o benderfyniadau recriwtio a ddarperir fel mater o drefn i bob cyfarfod o'r Comisiwn.

 

</AI16>

<AI17>

10  Unrhyw fater arall

 

 

Yn y cyfnod ers y cyfarfod diwethaf, roedd y Comisiynwyr wedi cytuno ar:

 

Nodasant hefyd:

 

Lythyrau gan y Bwrdd Taliadau mewn ymateb i Hefin David ar ran y Comisiwn, y Llywydd, a'r Prif Weithredwr, dyddiedig 10 Ebrill.

 

</AI17>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

FIELD_SUMMARY

</ TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</ COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>